top of page

Bywgraffiad

Mae Pedair yn dwyn ynghÅ·d dalentau pedair o artistiaid gwerin arobryn amlycaf Cymru: Gwenan Gibbard, Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym a Siân James. A'r pedair yn artistiaid rhyngwladol blaengar eu hunain, maent yn ffynnu wrth gydweithio a pherfformio'n fyw. Gyda'i gilydd dônt â bywyd newydd i ddeunydd traddodiadol gyda threfniannau newydd ar delynau, gitârs, piano ac acordion.

 

Mae eu perfformiadau byw wedi cydio yn nychymyg a chalonnau cynulleidfaoedd, gyda'u harmonîau ysgubol, ymdriniaeth grefftus o'r traddodiad, ac agosatrwydd y caneuon maent yn eu cyfansoddi.

 

Gan gyfuno eu doniau unigryw fel chwedl-ganwyr, maent yn tynnu eu deunydd o'r traddodiad barddol a llafar, yn ogystal â gwerin. Mae hynny'n cyfuno'n naturiol gyda'u crefft fel cantorion-gyfansoddwyr medrus, a'u caneuon gwreiddiol yn ymateb i gyflwr presennol y byd, gwytnwch byd natur, a chyda phwyslais arbennig ar roi llais i'r ferch.

 

Gwelodd eu recordiadau cyntaf olau dydd yn ystod y cyfnod clo, a buan y daeth eu caneuon yn hynod boblogaidd, ac yn ffynhonnell cysur a gobaith annisgwyl i nifer o bobol (yn cynnwys Pedair eu hunain!) A'u halbym cyntaf yn cael ei ryddhau gan Sain yn 2022, tydi asiad creadigol Pedair ond megis cychwyn cyrraedd ei lawn botensial.

“ Sian James, Gwyneth Glyn, Meinir Gwilym a Gwenan Gibbard – pedair sydd wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy i ddiwylliant Cymreig ers blynyddoedd lawer efo’u cerddoriaeth a’u gyrfaoedd unigol. Gyda’i gilydd, mae’r bartneriaeth a’r undod yma yn cynnig rhywbeth cyffrous ac arbennig iawn. Harmoniau bendigedig, dehongliadau teimladwy a cherddoriaeth newydd sy’n llawn angerdd ac emosiwn”. 

Lisa Gwilym, BBC Radio Cymru

bottom of page